Straeon Digidol

Un diwrnod braf ym mis Tachwedd  cychwynnodd rhai dysgwyr h┼Àn ar brofiad dysgu newydd a chyffrous. Ar ôl pum diwrnod o sgwrsio, gemau geiriau creadigol, brwydrau gyda "llusgo a gollwng", nifer fawr o gwpaneidiau o goffi a pheth gwaith caled roedd pob un ohonynt wedi

  • ysgrifennu a recordio stori fer am eu dysgu
  • dewis delweddau i ddarlunio eu stori
  • dysgu sut i sganio'r delweddau hynny a'u storio'n ddigidol a
  • rhoi sgript a delweddau at ei gilydd yn defnyddio meddalwedd golygu ffilmiau ar liniadur.

Roedd aelod hynaf y gr┼Áp yn 82 oed ac nid oedd nifer ohonynt wedi defnyddio cyfrifiadur o'r blaen ond mae'r straeon digidol ar y DVD yma yn dyst nad ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu. Mae straeon am fuddugoliaethau personol mawr, dadlennu trysorau a manbethau. Mae straeon i wneud i chi chwerthin neu wneud i chi wylo a rhai ohonynt sy'n gwneud y naill a'r llall. Fodd bynnag mae'r neges yn glir. Mae dysgu'n rhan bwysig o fywyd i bobl h┼Àn.

Hoffai NIACE Dysgu Cymru ddiolch i'r holl wneuthurwyr stori am roi eu hamser, prosiect straeon digidol Breaking Barriers am hwyluso'r gwaith a Chronfa Gymdeithasol Ewrop am ddarparu'r cyllid i'w gwneud yn bosibl iddo ddigwydd.