LighthouseDylanwadu ar Bolisi

Mae hybu'r achos dros addysg oedolion mewn polisi a thrafodaeth gyhoeddus yn greiddiol i ddiben elusennol NIACE. Gyda'n gwaith eiriolaeth rydym yn dylanwadu ac yn darbwyllo eraill fod gan gynyddu, gwella ac ymestyn cyfleoedd i oedolion i ddysgu drwy gydol eu bywyd fudd cyhoeddus gwirioneddol yn ogystal â buddion preifat.

I gael mwy o wybodaeth cysyllter â: cerys.furlong@niacedc.org.uk

Mae addysg oedolion yn ymdreiddio drwy ac yn cefnogi ystod o flaenoriaethau polisi cyhoeddus tu hwnt i ffiniau addysg, felly mae ein strategaethau a gweithgareddau eiriolaeth yn aml-ddimensiynol ac eang. Maent yn cynnwys:

  • cynnal ymgyrchoedd proffil uchel megis yr Wythnos Addysg Oedolion
  • paratoi gwaith datblygu ac ymchwil ansawdd uchel
  • cyflenwi gwasanaethau ymgynghoriaeth, cyngor a chefnogaeth arbenigol
  • ymrwymo Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr
  • cefnogi rhwydweithio gydag ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr
  • cyhoeddi llyfrau a chyfnodolion
  • cynnig gwasanaeth rheolaeth digwyddiadau eang
  • lledaenu gwybodaeth arbenigol
  • darparu cyrsiau hyfforddiant hyblyg a theilwredig

Mae rhan ganolog o'n strategaeth eiriolaeth yn ymwneud ag ymatebion i ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth a gyhoeddwyd gan adrannau Llywodraeth, pwyllgorau, ymholiadau a sefydliadau eraill. Mae'r cyhoeddiadau hyn ar gael drwy adran Papurau Polisi y wefan.