Wythnos Addysg OedolionWythnos Addysg Oedolion 12 - 20 Mai

Mae'r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch sy'n cyfuno hyrwyddiad cenedlaethol gyda gweithredu lleol. Mae'r ymgyrch yn rhoi cyfle i oedolion roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd drwy gymryd rhan yn un o'r cannoedd o sesiynau blasu a gynhelir ar draws Cymru yn ystod yr wythnos, a chyfle i ddarparwyr dysgu i arddangos eu darpariaeth. Os ydych yn darparu addysg oedolion byddwch eisiau manteisio i'r eithaf ar ymgyrch yr Wythnos Addysg Oedolion drwy drefnu eich digwyddiadau arbennig eich hun. Mae llu o bethau i'ch cefnogi ar gael ar y safle yma.

Yr Wythnos Addysg Oedolion yw gŵyl a dathliad mwyaf y Deyrnas Unedig o addysg oedolion. Fe'i cydlynir gan NIACE Dysgu Cymru gyda chyllid craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.