YmgyrchoeddYmgyrchoedd

Mae NIACE Dysgu Cymru yn cynnal nifer o ymgyrchoedd proffil uchel i gynyddu'r galw am ddysgu a sgiliau yng Nghymru ac i ddathlu llwyddiannau dysgwyr. Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddiant i gefnogi diddordebau dysgwyr sy'n dysgu mewn gwahanol gyd-destunau.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: stephen.martin@niacedc.org.uk

Yr Wythnos Addysg Oedolion yw ymgyrch ddysgu fwyaf a hynaf y Deyrnas Unedig. Fe'i cynhelir bob mis Mai ac mae'n annog miloedd o oedolion, beth bynnag eu hoedran a chefndir, i roi cynnig ar ddysgu.

Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae NIACE Dysgu Cymru hefyd yn rhedeg Eich Dyfodol. Eich Dewis. Yn eich dwylo chi. Nod yr ymgyrchoedd yw cefnogi hyrwyddo addysg oedolion ar lefel leol a chynyddu mynediad i wybodaeth, cyngor ac arweiniad.