Pan oedd Tracy Hudson yn dal yn yr ysgol uwchradd, aeth ei mam yn wael gan adael Tracy i ofalu am ei mam yn ei gwaeledd a'i thair chwaer.

'Cyn gynted ag aeth fy mam yn wael roedd fy mhlentyndod i drosodd a doedd yr ysgol ddim yn bwysig,' medd Tracey. Pan fu farw'i mam, aeth bywyd Tracey i lawr ac i  lawr. Yn 16 oed, gadawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a symud o le i le, gan aros gydag aelodau o'i theulu ar hyd a lled de Cymru. 

Bu Tracey yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, ond oherwydd cymysgedd o straen a genedigaeth ei mab mae heb allu dychwelyd at waith cyflog ers hynny.

Ar ôl gweld taflen yn hysbysebu gweithdy blasu 'Knowing You, Knowing Your Child', cofrestrodd Tracey ar gyfer cwrs ar agoriadau mewn seicoleg yn Nhachwedd 2009. I Tracey roedd y cwrs blasu cyntaf fel 'chwa o awyr iach', a bu'n ysbrydoliaeth iddi symud ymlaen at ddysgu o bell gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Bellach mae Tracey wedi cwblhau ei chwrs ac yn gobeithio mynd ymlaen at gwrs gradd gyda'r  Brifysgol Agored ym mis Hydref.

'Mae'n wych!' medd Tracey, 'Rwy'n gwybod beth wyf eisiau ei wneud, pa gefnogaeth sydd ar gael a beth sy'n bosib. Newydd ddechrau ydw i ond mae'r cyrsiau agoriadol wedi rhoi hwb i fy hyder a gobeithio y bydd yn arwain at waith yn y diwedd a fyddai'n berffaith i mi a fy mab. Fe yw fy mlaenoriaeth gyntaf ar hyn o bryd ond rwyf eisiau gwneud rhywbeth i mi fy hun ac iddo yntau. Nawr ei fod e yn yr ysgol amser llawn, rwyf wir yn teimlo mai hwn yw fy nghyfle,'