Fe dalodd ymrwymiad Sybil Coleman i addysg iddi yn 2006, pan fu mewn damwain a anafodd ei choes yn ddifrifol. Ar ôl cwblhau dim llai na 15 cwrs TGCh mewn chwe blynedd, gan gynnwys cyhoeddi pen desg, Lefelau Techneg 1-4, rhyngrwyd ac e-bost a Powerpoint, fe drodd Sybil, 80 oed, at y gelfyddyd ymladd araf Tai Chi i'w helpu i wella o'i hanafiadau.

Ar ôl mynd trwy'r maes llafur i gyd, aeth Sybil ati i sefydlu ei gr┼Áp celf a chrefft ei hun, o'r enw 'Crafty Friends', ym mhrosiect allgymorth cymunedol ARC yn Abertawe. Mae'r gr┼Áp yn gwneud gwaith hanfodol fel gr┼Áp cymdeithasol rhyng-genhedlaeth sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos i addysgu aelodau iau mewn sgiliau crefft sylfaenol fel gwau, gwnïo a crochet.

Dywedodd Sybil fod Crafty Friends wedi rhoi cyfle iddi fynd ar yr antur o annog pobl ifanc gyda'u dysgu. 'Mae hobïau cartref fel gwaith crefft ac ymwneud â phlant hyfryd wedi profi i mi fy mod innau'n parhau ar fy nhaith addysg,' meddai. 'Yn ogystal â hyn mae dwy sesiwn o ffurf araf o Tai Chi yn fy nghadw'n ffit yn gorfforol ac yn feddyliol.'

Mae'r ffordd y dysgodd Sybil wedi ysbrydoli a symbylu eraill i gymryd rhan, gan annog ffrindiau i ymuno a'u helpu i wella o brofedigaethau. Mae gan y bobl ifanc yn ei dosbarth Crafty Friends hefyd barch mawr i Sybil. 'Mae hi'n foneddigaidd ac yn eu hysbrydoli,' medd enwebydd Sybil, Debbie Jones o Ymddiriedolaeth Ddatblygu BPP. 'Mae rhai o'r bobl ifanc yn heriol o ran ymddygiad ond mae ganddi gariad, amynedd ac amser iddyn nhw i gyd.'

Arwyddair Sybil, fel un yr ARC, yw 'Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.'.