Ar ôl goroesi ymosodiad rhywiol erchyll, gwrthododd Susan Terri Ann George ei hawl i aros yn ddienw, er mwyn annog dioddefwyr eraill i ddod ymlaen. Oherwydd ei nerth a'i phenderfyniad hi o blaid cyfiawnder, daeth pedair arall oedd wedi eu treisio  gan yr un dyn ymlaen gan sicrhau ei fod yn cael carchariad hir. 

Yn benderfynol o ail ddechrau ei bywyd unwaith eto, cam cyntaf Susan oedd cyfeirio ati ei hun fel Terri George, ac ymuno â chwrs cwnsela Lefel 3 yng Ngholeg Gwent, fel y gallai gydweithio gyda rhai oedd wedi cael eu treisio a siarad ar eu rhan. Yn ddihyder a heb fawr o addysg, roedd Terri'n cael pethau'n anodd ar y dechrau, ond trwy ei phenderfyniad fe lwyddodd yn ei chwrs cwnsela Lefel 3.

Fe ddaeth Terri yn ol at addysg oherwydd ei dyhead am gyfiawnder a'i phenderfyniad i helpu eraill, ond yn fuan fe welodd fod ganddi alwedigaeth wirioneddol. 'Fe fyddwn i'n dweud wrth un, hen neu ifanc, y gallwch chi gyflawni unrhyw nod dim ond ichi fynd ati'n ddigon penderfynol,' meddai Terri. 'Mae'r staff a'r tiwtoriaid a'r mentoriaid wedi rhoi'r math o gefnogaeth i mi nad oeddwn erioed wedi ei weld o'r blaen. Fe roddon nhw hyder a synnwyr o hunan barch i mi, a chefnogaeth ddi-ffael.  Mae addysg wedi newid fy holl fywyd. Rwyf eisiau gwneud yn well a pharhau i ddysgu a dod yn gwnselydd gorau o fewn fy ngallu. Os gallaf i wneud hynny, gall unrhyw un arall.'

Mae Terri erbyn hyn yn eistedd ar Gr┼Áp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, yn gwirfoddoli fel cefnogwr dioddefwyr, wedi cofrestru ar gyfer cwrs cwnsela Lefel 5, a hefyd yn astudio ar gyfer diploma uwch mewn Argyfwng a Thrawma. 

Mae nerth Terri, ei phenderfyniad a'i hawydd i fod yn llais i eraill yn enghraifft ddisglair o sut y gall addysg helpu i drawsnewid bywydau.