Gall Scott Quinnell fod ag enw ardderchog fel chwaraewyr rygbi ond mae ei frwydr gyda dyslecsia hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer. Yn methu darllen nag ysgrifennu cyn mynd i raglen addysg DORE yn 33, ysbrydolodd Scott lawer i wynebu eu hofnau a dychwelyd i ddysgu, drwy ei agwedd onest a chadarnhaol.

Disgrifiodd Charlotte Galsworthy, Rheolydd Prosiect Wulf a enwebodd Scott, ef fel 'un o'r rhai sydd wedi rhoi mwyaf o ysbrydoliaeth i mi.  Er ei fod yn cael ei adnabod fel seren ym myd rygbi, bu gan Scott o hyd amser i bawb beth bynnag eu cefndir, swydd neu amrywiaeth. Mae ganddo allu naturiol i wneud bobl deimlo'n arbennig a chredu ynddynt eu hunain. Nid llawer o bobl sydd â'r gallu yma.'

Mae campau arwrol Scott ar y maes rygbi i Gymru yn hysbys iawn, ond mae Charlotte yn gobeithio 'Y bydd Scott yn cael mwy o gydnabyddiaeth am ei lwyddiant yn codi ymwybyddiaeth o anawsterau dysgu, i ysbrydoli'r rhai na wyddent efallai fod yn rhaid iddynt ddod ymlaen.'

Mae Charlotte yn awr wedi medru trosglwyddo'r hyn a ddysgodd gan Scott a thîm DORE a'i ddefnyddio yn ei rôl fel rheolwr prosiect WULF yn Corus Strip Products.

'Mae nifer o bobl o fewn ein prosiect eisoes wedi dychwelyd i addysg," meddai Charlotte. 'Maent wedi gwneud hyn er mwyn cynyddu eu sgiliau ac addysgu eu hunain o fewn eu swydd, bywyd teulu a chymuned; oherwydd iddynt gael eu hysbrydoli gan Scott.'