Yn gweithio dros addysg oedolion ehangach
Rhwydweithiau rydym yn cefnogi
Cefnogi nifer o rwydweithiau yng Nghymru megis:
- Dysgu Cymunedol Cymru: is-gr┼Áp o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru, gyda'r holl awdurdodau lleol sy'n darparu dysgu cymunedol i oedolion yn aelodau.
- RAMOD: rhwydwaith o dros 270 o addysgwyr a mentoriaid yn gweithio gydag oedolion Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig.
- Rhwydwaith Dysgu Teulu: sy'n cynnwys 192 cyswllt gyda darparwyr o ysgolion bro, Cymunedau yn Gyntaf, ContinYou, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, cydlynwyr sgiliau sylfaenol, Clybiau Plant Cymru, Dysgu Teulu Maesglas, Genesis a chydlynwyr dysgu teulu mewn awdurdodau lleol.
- Rhwydwaith Dysgwyr Cymru: gr┼Áp o dros 800 o ddysgwyr sy'n lladmeryddion dros addysg oedolion ac sy'n cyfrannu at ddatblygu polisi addysg yng Nghymru.
- Rhwydwaith Llythrennedd Cyfryngau Cymru: sy'n dod ynghyd â darparwyr, darlledwyr a rhanddeiliaid eraill o bob rhan o Gymru yn rheolaidd i rannu arfer da, gwybodaeth, syniadau a gweithio mewn partneriaeth ar bob mater yn ymwneud â llythrennedd cyfryngau.
Hafan | Amdanom ni | Newyddion | Dylanwadu ar Bolisi | Ymgyrchoedd | Engagement Gateway Funding | Prosiectau | Dysgu Teulu a Rhyng-genhedlaeth | H┼Àn a Hyderus | Cysylltiadau | Cynadleddau | RARPA Toolkit