Pan oedd hi'n gwella ar ôl bod yn camddefnyddio sylweddau, fe chwyldrodd Rachel Williams ei bywyd pan ymunodd â Fairbridge Cymru yn Rhagfyr 2008. Gan Fairbridge, elusen sy'n gweithio gyda phobl ifanc sydd heb waith, addysg na hyfforddiant, cafodd Rachel y gefnogaeth, hyder a chyngor yr oedd eu hangen arni i newid ei bywyd er gwell.
Tyfodd hyder Rachel gyda phob diwrnod ac yn fuan roedd hi'n cymysgu gyda phobl ifanc eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel can┼Áio, beicio mynydd a chyfeiriannu.
Ar ôl llwyddo yn ei rhaglenni 'Mynediad' a 'Dilyniant' rhoddodd Rachel ei bryd ar ennill lle yn y pen draw mewn coleg i astudio Datblygu Chwaraeon, Hyfforddi a Ffitrwydd. Llwyddodd yn ei nod yn Hydref 2009 pan gafodd le yng Ngholeg Glan Hafren.
Trwy gyrraedd ei disgwyliadau'n gyson, ac yna rhagori ar hynny, mae Rachel wedi goresgyn a choncro anawsterau a phroblemau a fyddai wedi digalonni sawl un arall. Oherwydd ei hymroddiad a'i gwaith caled bu'n siarad ar ran Fairbridge wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac yn holi'r Prif Weinidog Gordon Brown mewn cyfarfod arbennig yng Nghaerdydd.
Dywed John Bond, gweithiwr allgymorth Rachel yn Fairbridge, fod ei hymroddiad a'i phenderfyniad llwyr wedi gwneud argraff aruthrol ar bawb. 'Mae'n dangos, er y gall gymryd amser i rywun oresgyn problemau personol, y gall y gwobrau newid bywydau yn llwyr,' meddai.