Prosiect Meincnodi Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Dyddiad Gan/I: 1 Ebrill 2008 - 31 Mawrth 2009

Beth ydyn niÔÇÖn anelu ei gyflawni?

Mae NDC yn gweithio gyda fforwm i atgynhyrchu'r model meincnodi ansawdd uchel a ddefnyddiwyd ar draws y sector Addysg Bellach yng Nghymru mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Bydd y prosiect yn dynodi is-set gynrychioladol o ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned, adolygu canlyniadau'r ddarpariaeth honno a dynodi'r ffactorau hanfodol ar gyfer llwyddiant ar draws darpariaeth.

Datblygodd tîm y prosiect brotocol a fframwaith cadarn ar gyfer darparwyr i rannu data canlyniad dysgwyr i ddynodi arfer da ar draws Cymru. Pwysleisiodd y protocol yr ymrwymiad i barchu cyfrinachedd y data ac i gyflwyno canlyniadau'r prosiect mewn cynhadledd yn cydymffurfio gyda'r egwyddor honno. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai'r astudiaethau achos yn dynodi'r darparydd i gynorthwyo lledaenu arfer da yn effeithiol drwy alluogi cyfranogwyr i geisio gwybodaeth ychwanegol tu hwnt i'r adroddiadau astudiaeth achos cryno.

Sut fyddwn niÔÇÖn gwneud y gwaith yma?

 

Mae'r prosiect yn cyfrannu at y Fframwaith Ansawdd ac Effeithlonrwydd ar gyfer ôl-16 a datblygu hunanreoleiddio yn y sector, drwy ddynodi ffactorau hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn arfer gorau mewn dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Mae'r prosiect mewn partneriaeth gyda fforwm ac mae'n adeiladu ar brofiadau cynnal prosiect tebyg yn y sector Addysg Bellach. Cydlynir y prosiect gan dîm prosiect a gr┼Áp llywio sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gr┼Áp Rheolwyr Allestyn fforwm a Dysgu yn y Gymuned Cymru. Mae'r grwpiau rhanbarthol o gydlynwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cydlynu'r cynllun meincnodi ar gyfer pob darparydd a gefnogir gan NIACE Dysgu Cymru a fforwm. Bu NIACE Dysgu Cymru a fforwm yn gweithio i hwyluso a chefnogi'r gwaith ym mhob rhanbarth drwy dîm y prosiect sef Cerys Furlong, Gavin Thomas, Adrian Sheehan a Katy Burns, a fu'n gweithio'n agos gyda'r consortia rhanbarthol a hwyluso'r cyfarfodydd rhanbarthol allweddol, rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i'r cyfarfodydd hyn a chasglu a dadansoddi'r data.

Ar gyfer pwy maeÔÇÖr gwaith yma

APADGOS

Beth ydyn ni wediÔÇÖi ddysgu oÔÇÖr gwaith yma?

Beth yw (neu beth fydd) effaith y gwaith yma?

Mae'r gwaith yma yn cyfrannu at Fframwaith Ansawdd ac Effeithlonrwydd APADGOS ar gyfer addysg ôl-16.

Gwybodaeth Cyswllt