Enwebu Dysgwr neu Diwtor
Mae NIACE Dysgu Cymru yn falch i lansio Gwobrau Ysbrydoli! 2012. Cynhelir y seremoni yn Venue Cymru, Llandudno ar 10 Mai 2012 ac eleni bydd y gwobrau Tiwtoriaid a Mentoriaid hefyd yn rhan o'r Seremoni Wobrwyo Dysgwyr.
Gwahoddir enwebiadau ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr eithriadol o addysg bellach, addysg uwch, y gweithle neu'r gymuned. Gall tiwtoriaid fod yn gweithio mewn sgiliau hanfodol, cymwysterau galwedigaethol, ieithoedd, ar-lein drwy e-diwtora a/neu'n wirfoddol fel mentor. Gall dysgwyr fod yn astudio unrhyw bwnc o Archaeoleg i Waith Coed. Cyhoeddir enwau prif enillwyr y gwobrau Dysgwyr a thiwtor ar ddiwedd y seremoni.
Bydd y broses enwebu yn agor ddydd Gwener 14 Hydref 2011, a'r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 10 Chwefror 2012.
I'n helpu i ostwng gwastraff papur ac arbed arian mewn costau argraffu, hoffem ofyn i chi ddefnyddio ein ffurflen gyflwyno ar-lein. Enwebu yn awr.
Os dymunwch ddefnyddio'r fersiwn Word (sydd ar gael islaw) y ffurflen enwebu, medrir e-bostio hyn yn uniongyrchol at steve@niacedc.org.uk. Dim ond os yn hollol hanfodol y dylid anfon copïau caled drwy'r post os gwelwch yn dda.
Gallwch gysylltu â Steve Johnson o'r tîm ymgyrchoedd os oes gennych unrhyw ymholiadau, yn steve@niacedc.org.uk neu drwy ffonio 029 2037 0917

