Adnoddau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau
Diolch i chi am gyflwyno manylion eich digwyddiad. Os credwch eich bod wedi gwneud camgymeriad cysylltwch â stephen.martin@niacedc.org.uk os gwelwch yn dda a'i hysbysu am y newidiadau sydd eu hangen.
Yn ystod eich digwyddiad byddem yn ddiolchgar iawn pe medrech gasglu cynifer o ffurflenni caniatâd (ar gael islaw) gan y rhai a gymerodd ran ag sydd modd er mwyn ein galluogi i gynnal arolwg dilynol o addysg oedolion yng Nghymru.
Os ydych yn aelod o gr┼Áp g┼Áyl dysgu, llenwch y ffurflen gwerthuso partneriaid islaw ar gyfer eich digwyddiad neu weithgaredd os gwelwch yn dda a'i hanfon at gydlynydd eich g┼Áyl dysgu gydag unrhyw dderbynebau ac ati.
Os ydych yn gydlynydd ar gyfer yr ┼Áyl dysgu yn eich sir, gofynnir i chi sicrhau y cesglir y ffurflenni gwerthuso partneriaid (y sonnir amdanynt uchod) ar ddiwedd gweithgareddau eich gr┼Áp a'i hatodi gyda'r ffurflen gwerthuso cydlynwyr gr┼Áp dysgu islaw os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr