Syrthio mewn cariad gyda darllen Monday, Ionawr 23, 2012 - 09:04
Roedd Rachael Morgan o Gastell-nedd Port Talbot yn casáu'r ysgol gyda chas perffaith. "Roeddwn yn cael fy adnabod fel yr un ddrwg, a chefais ddiagnosis o ddyslecsia difrifol yn y diwedd. Fe lwyddais i gyrraedd y coleg ond canfod na fedrwn ymdopi a gadael yn fuan iawn", meddai. Newidiodd pethau i Rachael pan ymunodd â dosbarth Dysgu Teulu a dechrau dysgu darllen wrth ochr ei merch. "Rwy'n hoffi dysgu yn awr," meddai Rachael, "rwy'n berson hollol wahanol i'r un roeddwn yn yr ysgol".
Nid yw Rachael ar ben ei hun. Amcangyfrifir fod 12% o oedolion yng Nghymru yn brin o sgiliau llythrennedd sylfaenol ac mae rhieni sydd heb hyder darllen yn llawer llai tebygol o ysbrydoli hoffter o ddarllen yn eu plant.
Mae Straeon Sydyn yn straeon byr wedi'u hysgrifennu'n wych ar gyfer pobl sydd eisiau mwynhau darllen ond sydd wedi colli'r arfer o ddarllen neu'n ei chael yn anodd darllen. Mae NIACE Dysgu Cymru wedi uno gyda Chyngor Llyfrau Cymru i helpu lansio teitlau newydd 2012 ar Ddiwrnod Santes Dwynwen - y dyddiad perffaith i syrthio mewn cariad gyda darllen! Lansir teitlau 2012 Stori Sydyn yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 25 Ionawr am 11.30am ac yn Neuadd PJ yn Niwbwrch, Ynys Môn am 6.30pm yr un diwrnod.
Dywedodd Rhydian Thomas, Uwch Reolwr Ymgyrchoedd NIACE Dysgu Cymru: "Rydym yn falch tu hwnt i gymryd rhan yn lansio teitlau newydd Stori Sydyn 2012 yng Nghymru. Drwy ein rhwydwaith o Wyliau Dysgu, rydym wedi trefnu digwyddiadau 'Syrthio mewn Cariad gyda Darllen' ym mhob sir yng Nghymru fel rhan o raglen ehangach o sesiynau blasu am ddim ym mis Ionawr felly rydych roi cynnig ar rywbeth newydd lle bynnag ydych".
Ychwanegodd Delyth Humphreys, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Dysgu Cyngor Llyfrau Cymru: 'Mae'r ymgyrch Stori Sydyn yn ennill momentwm ac yn annog miloedd o bobl ym mhob rhan o Gymru - llawer ohonynt heb erioed ddarllen llyfr o'r blaen - i roi cynnig ar ddarllen.
"Mae'r teitlau newydd ar gyfer 2012 yn cynnig cymysgedd wych o ddeunydd pwnc yn fywyd go iawn a ffuglen, ac rwy'n si┼Ár y byddant yn apelio at bobl o bob oed a diddordeb."
I gael manylion am sesiynau blasu am ddim, yn cynnwys digwyddiadau Stori Sydyn yn eich ardal, ewch i www.eichdyfodoleichdewisyneichdwylochi.org.uk neu ffonio 0800 100 900.