NIACE yn croesawu strategaeth newydd Cyfiawnder Cymdeithasol dydd Mercher, 14 Mawrth 2012 Thursday, Mawrth 15, 2012 - 09:06
Mae NIACE yn croesawu lansiad strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Social Justice: Transforming Lives - gan ei bod yn cynnwys llawer y cred NIACE fydd yn plesio addysgwyr oedolion ar draws y wlad.
Mae Social Justice: Transforming Lives yn seiliedig ar ddwy egwyddor sylfaenol:
1. Mae angen ataliaeth drwy gydol bywyd person gydag ymyriadau wedi'u cynllunio'n ofalus i rwystro pobl rhag disgyn oddi ar y llwybr ac i amgylchiadau anodd. Dylai'r broses yma ddechrau gyda theuluoedd, diwygio'r systemau ysgol a chyfiawnder, y system les a thu hwnt.
2. Mae'r strategaeth yn gosod y nod o 'gymdeithas ail gyfle'. Dylai unrhyw un sydd angen ail gyfle mewn cymdeithas fedru cael mynediad i'r gefnogaeth a'r dulliau maent eu hangen i drawsnewid eu bywydau
Mae NIACE yn croesawu'r dull newydd cadarnhaol a chydlynol sy'n adlewrchu ffocws cynharach y sefydliad ar ddysgu drwy gydol oes yn adroddiad terfynol y Comisiwn Ymchwiliad i Ddysgu Gydol Oes - Learning Through Life. Mae NIACE yn gweithio i sicrhau y gwelir dysgu i bawb fel rhan gyfannol o wella bywyd teulu, iechyd a chyflogaeth. Mae'r strategaeth yn cefnogi newid yn naratif dysgu a sgiliau ar gyfer y rhai mwyaf bregus ac yn amlygu ei werth cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Dywedodd David Hughes, Prif Weithredydd NIACE:
"Mae hyn yn ymagwedd y gallwn i gyd ei chroesawu a dylanwadu arni ar lefel genedlaethol a lleol. Dadleuodd NIACE ers amser maith fod pobl yn haeddu ail gyfle a hyd yn oed trydydd gyfle. I ormod o bobl ac am yn rhy hir, fel y canfu Helena Kennedy, 'os nad ydych chi'n llwyddo'r tro cyntaf - dydych chi ddim yn llwyddo'. Rwy'n falch iawn i weld symud at ddull mwy cynhwysol a chydlynol at fynediad o amgylch cyfiawnder cymdeithasol yn hytrach na thrwy'r diffiniadau culach yn ymwneud â symudedd cymdeithasol. Er y byddwn yn parhau i dynnu sylw a gweithio i fynd i'r afael â materion ar gyfer y rhai sydd ar eu colled fel canlyniad i newidiadau, mae hyn yn symudiad y gallwn oll ei groesawu."
Bydd NIACE yn gwneud ymateb manwl i gefnogi aelodau i ymgysylltu gyda'r agenda.