Heneiddio Heb Boeni | Growing Old Disgracefully Thursday, Mawrth 12, 2009 - 16:52

older learners

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru a NIACE Dysgu Cymru yn cydweithio ar arddangosfa o'r enw Heneiddio Heb Boeni | Growing Old Disgracefully. Mae'n rhan o ŵyl Gwanwyn, sy'n dathlu creadigrwydd mewn blynyddoedd hŷn. Mae'r prosiect wedi'i addasu o gystadleuaeth y gwnaeth NIACE ei chynnal yn 2009 gyda'r bwriad o herio'r hyn mae pobl yn ei feddwl am rai ym mlynyddoedd hŷn eu bywydau. Gallwch weld enghreifftiau o'r gystadleuaeth wreiddiol ar-lein ar www.flickr.com/groups/ffotosgrowingold ynghyd â manylion am y gystadleuaeth newydd.

Bydd Heneiddio Heb Boeni | Growing Old Disgracefully yn rhedeg trwy gydol mis Mai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a bydd detholiad o ffotograffau digidol gan y cyhoedd yng Nghymru yn rhan o'r arddangosfa. Rydyn ni'n chwilio am luniau o bobl hŷn yn dysgu ac yn gwneud gweithgareddau na fyddech chi'n disgwyl. Gallan nhw fod yn DJ'io, ar fwrdd sglefrio, yn trydar ar Twitter neu'n dawnsio stryd. Os ydych chi'n un o'r genhedlaeth hŷn, neu'n adnabod rhywun hŷn sydd â hobi annisgwyl, neu ddiddordeb anturus, anfonwch eich lluniau i'r gystadleuaeth.

Gall unrhyw un, o unrhyw oed, anfon ffotos i mewn. Ond mae'n rhaid i rywun hŷn fod yn y llun. Mae'n rhaid i'r ffotograffydd gael caniatâd yr un fydd yn y llun, felly eich dewis chi yw sut byddech chi'n dehongli "hŷn".

Amserlen

  • Mae'r gystadleuaeth nawr ar agor, a'r dyddiad cau yw 7 Ebrill
  • Ebrill- Mai: Beirniadu a fframio
  • Mai: Arddangosfa'n agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Canllawiau \ Rheolau:

  1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i ffotograffwyr o bob oed, ond mae'n rhaid i'r lluniau gynnwys pobl hŷn
  2. Dyddiad Cau cyflwyno'r lluniau yw dydd Iau 7 Ebrill
  3. Bydd panel beirniadu, fydd yn cynnwys rhai pobl hŷn, yn dewis detholiad o'r lluniau i greu'r arddangosfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
  4. Mae'n rhaid i'r unigolyn/unigolion yn y llun fod wedi rhoi caniatâd i'r ffotograffydd dynnu'r llun a'i gynnwys yn yr arddangosfa
  5. Er mwyn iddo gael ei ddefnyddio yn yr arddangosfa, yn ddelfrydol byddai'r ffoto o leiaf 2MB o ran maint (bydd Flickr yn newid y maint wrth eu llwytho i'r gystadleuaeth)
  6. Mae cyfle i'r ffotograffau fod yn ddoniol, ond ni ddylent fod yn amharchus
  7. Mae'r Ganolfan yn cadw'r hawl i beidio arddangos ceisiadau

Cyflwyno'ch Ffotograff:

  • Trwy safle fel Flickr www.flickr.com/groups/ffotosgrowingold
  • Yn uniongyrchol i Ganolfan Mileniwm Cymru -
    • trwy'r post ar ddisg, mewn unrhyw fformat o lun
    • dros e-bost (yn dibynnu ar y maint) yn uniongyrchol i addysg@wmc.org.uk
    • neu fel 'mailbit' (cyfleuster llwytho cyhoeddus i'r we, lle gallwn ni ei lawrlwytho wedyn - nid yw o reidrwydd yn weledol fel Flickr)

Os oes gennych chi lun sy'n addas i'r gystadleuaeth, a'ch bod yn cael trafferth deall sut i'w gyflwyno, cysylltwch ag addysg@wmc.org.uk neu efallai y bydd rhywun yn eich canolfan gymunedol addysg i oedolion neu'ch llyfrgell leol eich helpu.

Pob lwc gyda'ch ffotograffau, a gobeithio y bydd un o'ch lluniau chi i'w gweld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mai.