Cyn Gurkhas a theuluoedd i ddysgu Saesneg Friday, Awst 13, 2010 - 11:38

Cyn Gurkhas a theuluoedd i ddysgu Saesneg

Caiff Prosiect Addysg Adsefydlu ac Addysg Oedolion Gurkha - a ariannir gan y Gronfa Integreiddio Ewropeaidd - ei reoli gan NIACE a fydd yn gweithio gyda Choleg Cymunedol Greenwich, Coleg Barnet, Coleg Powys, Cymdeithas Milwyr, Morwyr, Dynion Awyr a Theuluoedd (SAAFA) ac Ymddiriedolaeth Lles Gurkha.

Ynghyd ag annog Gurkhas wedi ymddeol a'u teuluoedd i ddilyn cyrsiau ESOL, bydd NIACE yn cynnal prosiect ymchwil cenedlaethol i benderfynu anghenion iaith a'r ddarpariaeth ESOL bresennol ar gyfer y gymuned Gurkha. Hwn fydd yr ymchwil cyntaf o'i fath.

Bydd partneriaid Awdurdod Lleol yn datblygu darpariaeth ESOL a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer cymunedau Gurka lleol. Bydd y prosiect yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf gan deuluoedd Gurkha yng Ngholeg Cymunedol Greenwich, lle mae rhestr aros am y ddarpariaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd Marina Koniotou, Swyddog Prosiect NIACE ESOL:

"Mae milwyr Gurka yn mynychu cyrsiau iaith ar hyn o bryd; fodd bynnag mae eu teuluoedd, yn arbennig eu gwragedd, yn llai tebygol o fynd ar gyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ac maent felly wedi'u hynysu o gymunedau ehangach. Dros y 3 blynedd nesaf bydd y prosiect yn ymgysylltu â gwragedd a theuluoedd Gurkha a Gurkhas wedi ymddeol i wella eu galluoedd yn y Saesneg a sicrhau y medrant integreiddio i gymdeithas prif ffrwd."

Dywedodd Gerry Armstrong, Ysgrifennydd Adrannol SSAFA:

"Dros y 3 blynedd nesaf bydd y prosiect yn ymgysylltu â gwragedd a theuluoedd Gurkha a Gurkhas wedi ymddeol i wella eu galluoedd yn y Saesneg a sicrhau y medrant integreiddio'n well i brif ffrwd cymdeithas."

Ychwanegodd Marina Koniotou, Swyddog Prosiect ESOL NIACE

"Wrth i ni gychwyn ar y bartneriaeth newydd hon gyda NIACE rydym yn edrych ymlaen at hybu'r cynnydd ardderchog a wnaethom yn gweithio gyda Choleg Cymunedol Greenwich yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae diddordeb Gurkhas yn y ddarpariaeth ESOL newydd yn cynyddu bob dydd."

"Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio'n neilltuol ar anghenion arbennig nifer cynyddol o Gurkhas sydd newydd gyrraedd Prydain heb fod ag unrhyw gysylltiad gyda'r Saesneg o'r blaen. Maent yn llawer hŷn, mae ganddynt anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol a byddant yn ei chael yn anodd iawn integreiddio os nad ydynt yn medru siarad peth Saesneg bob dydd."

Meddai Kesh Gurung, llefarydd Addysg Gymunedol Cymdeithasau Cymunedol Gurkka De Llundain :

"Mae'r gymuned Gurkha yn ddiolchgar iawn am gyflwyniad dosbarthiadau ESOL sy'n bwysig iawn ar gyfer ein holl gynlluniau i integreiddio i gymdeithas leol."

Cynhelir seminar arbenigwyr ym mis Tachwedd 2010 i ddod â'r holl ddarparwyr, asiantaethau a chyrff sector gwirfoddol sy'n gweithio gyda Gurkhas ynghyd i rannu arfer da a darparu un pwynt cyswllt ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Fyddin. Bydd y seminar yn archwilio anghenion y gymuned Gurkha ar draws y Deyrnas Unedig ac yn dadlennu ymchwil newydd fydd yn cyfrannu at strategaeth genedlaethol ar gyfer adsefydlu Gurkha ac addysg oedolion yn y Deyrnas Unedig.