Buddsoddi mewn Ansawdd - Cronfa Gwella Ansawdd 2010 Tuesday, Awst 24, 2010 - 09:08

Buddsoddi mewn Ansawdd

Gwella Ansawdd Ariannu yn awr yn byw a chanllawiau a bod y cais pro-forma ar gael i'w llwytho i lawr

I'ch atgoffa:

  • £200,000 yw cyllideb y CGA rhwng 2010 a 2012, ac mae hyd at £6,000 ar gael ar gyfer pob cais a gaiff ei gymeradwyo;
  • Gall sefydliadau addysg bellach, Carchardai Ei Mawrhydi, Canolfannau Iaith Cymraeg i Oedolion, awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant a ariennir yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer darparu dysgu ôl-16 yng Nghymru gyflwyno cais am gyllid, a bydd cylch pellach yn cychwyn yn 2011 ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith;
  • rhagwelir y bydd hyd at 30 o geisiadau yn derbyn cymorth gan y CGA yn ystod y cylch cyntaf;
  • mae CGA 2010 yn canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu strategaethau ansawdd mewnol er mwyn helpu i wella'r canlyniadau ar gyfer dysgwyr, ymatebolrwydd dysgwyr a chyflogwyr ynghyd ag arweinyddiaeth a rheolaeth;
  • mae paragraffau 8 - 9 o'r canllawiau yn rhoi gwybodaeth am y math o weithgareddau a fydd yn derbyn cymorth gan y CGA;
  • croesewir ceisiadau ar y cyd. Mae hyd at £6,000 ar gael ar gyfer ceisiadau unigol, ond byddwn yn cytuno fesul achos ar lefel y cyllid i'w roi i geisiadau ar y cyd;
  • bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus rannu'u canlyniadau â darparwyr eraill. Bydd y tudalennau ansawdd ar wefan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a digwyddiadau rhwydweithio/partneriaeth yn eu helpu i wneud hyn; a
  • byddwn yn ymgynghori â'r ymgeiswyr llwyddiannus wrth werthuso'r rhaglen BmA a byddant yn cael cyfle i ddatblygu a llywio'r cyfleoedd cyllido a fydd ar gael drwy'r rhaglen hon yn y dyfodol.

Gwahoddir darparwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer y CGA erbyn 10am ddydd Llun 11 Hydref 2010 (ar ffurf copi caled ac electronig) yn unol â'r manylion a gynhwysir yn y canllawiau.  Gallwch weld manylion prosiectau blaenorol ar ein gwefan yn www.cymru.gov.uk/ansawdd (cliciwch ar 'Gwella Ansawdd').

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Milton, Rheolwr Ansawdd ac Effeithiolrwydd ar post16quality@cymru.gsi.gov.uk