Addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith Tuesday, Ebrill 27, 2010 - 13:39

Mae Adults Learning Journal y mis hwn yn cynnwys nifer o erthyglau yn canolbwyntio ar y newidiadau mewn addysg oedolion yng Nghymru, gyda ffocws arbennig ar addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Yn ei sylwadau geilw Richard Spear (Cyfawryddwr NIACE Dysgu Cymru) am wariant cydlynol ar addysg. Gyda'r wasgfa ar wariant cyhoeddus yn bygwth adrannu pellach mewn polisi addysg, yr her yw darbwyllo gwleidyddion a'r cyhoedd fod angen dynesiad mwy cydlynol ar draws cyfnodau bywyd. Darllenwch y sylwadau.

Mae Cerys Furlong (Cyfarwyddwr Rhaglen, NIACE Dysgu Cymru) yn dadlau na ddylai cynlluniau i adolygu cost gweinyddu addysg yng Nghymru olygu culhau diben addysg neu symud ymhellach o ymrwymiad egwyddorol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyfiawnder cymdeithasol. Darllenwch yr erthygl.

Mae Arwyn Watkins (Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru) yn disgrifio sut y trawsnewidwyd dysgu seiliedig ar waith dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda darparwyr yn hybu ansawdd a herio canfyddiad y cyhoedd o'i werth. Darllenwch yr erthygl.

Ysgrifenna John Graystone (Prif Weithredydd Colegau Cymru) am agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru i drawsnewid addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae  symleiddio darpariaeth a rhannu cyfleusterau - yn ganolog i'r newid, ond y gwir brawf yw p'un a fydd myfyrwyr, cymunedau a busnesau yn gweld y manteision. Darllenwch yr erthygl.