Mapiau a Chyfarwyddiadau

Mae swyddfa NIACE Dysgu Cymru 
33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol Caerdydd
3ydd Llawr
CF11 9HB

029 2037 0900

AR Y FFORDD

O'r Dwyrain ar yr M4 - Gadewch gyffordd 29 Caerdydd (A48M) a dilyn yr A48M am tua 4 milltir. Dan y drosffordd, ewch drwy'r goleuadau a chymryd y tro nesaf i'r chwith A4119 arwyddbost Llandaf/Gerddi Sophia, troi i'r chwith wrth y gyffordd T ac i'r chwith yn y goleuadau/cyffordd nesaf (tua ¼ milltir) i Heol yr Eglwys Gadeiriol. Mae NIACE Dysgu Cymru tua 2/3 milltir ar y llaw dde newydd fynd heibio'r goleuadau traffig. Medrir parcio yng Ngerddi Sophia (i'r chwith wrth y goleuadau traffig).

O'r Gorllewin ar yr M4 - Gadewch gyffordd 33 a dilyn yr A4232 tuag at Ddociau Caerdydd, gadael yr A4232 yn Lecwydd arwyddbost Canol y Ddinas. Ewch heibio Stadiwm Athletau Lecwydd ac yn syth drwy'r goleuadau 1af a throi i'r dde wrth yr 2il set i Stryd Wellington. Dilynwch am tua ¼ milltir a throi i'r chwith wrth yr 2il set o oleuadau i Heol yr Eglwys Gadeiriol. Mae NIACE Dysgu Cymru tua 200 llath ar y chwith yn union heibio'r goleuadau. Mae parcio ar gael yng Ngherddi Sophia (i'r dde wrth y goleuadau traffig).

O'r Gogledd ar yr A470 - Yng nghyfnewidfa Gabalfa dilynwch y ffordd i'r gorllewin gydag arwyddbost A48 Port Talbot a chanol y ddinas. Ewch drwy'r goleuadau a chymryd y tro nesaf A4119 gydag arwyddbost Llandaf/Gerddi Sophia, troi i'r chwith yn y gyffordd T ac i'r chwith yn y goleuadau/cyffordd nesaf (tua ¼ milltir) i Heol yr Eglwys Gadeiriol. Mae NIACE Dysgu Cymru 2/3 milltir ar y dde yn union heibio'r goleuadau traffig. Mae parcio ar gael yng Ngherddi Sophia (i'r chwith wrth y goleuadau traffig).

AR Y TRÊn

Mae NIACE Dysgu Cymru tua 1 filltir o Orsaf Ganolog Caerdydd. 5 munud mewn tacsi neu 15 munud ar droed.