Ar ôl cyfres o broblemau gyda'i iechyd a'i amgylchiadau byw, cafodd Ian Whitehill ei hun yn ddigartref ac yn byw ar strydoedd Llundain. Ar ôl iddo benderfynu dychwelyd adref i Gasnewydd, daeth llu o anawsterau i'w ran, gan gynnwys byw mewn adfail o d┼À.
Ar ôl bod yn aros yn hostel mynediad uniongyrchol Solas, cafodd Ian ei annog i fynychu Canolfan Addysg Solas yn Compass, lle cafodd ei gariad at y gitâr ei ail danio wrth iddo fynychu dosbarthiadau cerdd.
Wrth i'w hyder gynyddu, felly hefyd ei ddiddordeb mewn dychwelyd at addysg, ac yn fuan fe drodd ei sylw at Dechnoleg Gwybodaeth. Aeth wedyn ar gwrs Technoleg Cerddoriaeth yn Compass, yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda'r Adran Allgymorth ym Mhrifysgol Morgannwg, ac wrth iddo lwyddo'n wych yno fe ddatblygodd ffocws newydd ar gyfer ei addysg.
Gan ddefnyddio'i sgiliau newydd, penderfynodd Ian helpu eraill yn ei hostel i gyflawni eu potensial a dechrau gwirfoddoli mewn sesiynau allgymorth gyda GAVO.
'Dydw i ddim yn meddwl am lwyddiant academaidd fel mater o ennill ariannol,' medd Ian 'Allaf i ddim dweud fod dysgu wedi newid fy mywyd yn y ffordd honno, ond o ran ennill hyder a hunan barch, mae'n sicr wedi gwneud hynny. I unrhyw un sy'n meddwl mynd ar gwrs, fy nghyngor i yw bwriwch ati, fyddwch chi ddim yn edifar. Fel y dywedodd rhywun, mae siwrnai mil o filltiroedd yn cychwyn gydag un cam.'
Gydag Ian bellach wedi symud allan o'r hostel i'w gartref ei hun, mae'r 'un cam' hwnnw wedi arwain at daith ddarganfod sy'n parhau i gyfoethogi ei fywyd.