Wedi ei sefydlu ym Medi 2009 gan ddau o bobl ifanc digartref, dechreuodd The Gathering trwy hyrwyddo hawliau ieuenctid digartref Caerdydd. Roedd hynny'n cynnwys rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan weithredol mewn herio gormes, dylanwadu ar y rhai oedd yn gwneud penderfyniadau, a helpu i greu newid er gwell.

O fewn chwech mis mae hyd oes y prosiect, oedd i fod yn chwe mis, wedi ymestyn yn sylweddol. Mae'r gr┼Áp wedi cymryd rhan mewn prosesau ledled y ddinas gan helpu i wneud penderfyniadau o ran digartrefedd ieuenctid ac yn y sector tai, mynychu digwyddiadau a chynadleddau ym mhob rhan o Gaerdydd, gan leisio'u barn a sicrhau fod helpu i lunio'u dyfodol eu hunain.

Er mwyn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am realaeth bod heb gartref, mae The Gathering hefyd wedi cydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i greu ffilm fer i herio'r stereoteipiau am ddigartrefedd, a ddaeth yn arf addysgol gwerthfawr.

Dywedodd Daniel, dyn ifanc sy'n rhan o'r prosiect, fod The Gathering wedi rhoi cyfle go iawn iddo chwyldroi ei fywyd. 'Rydw i nawr yn byw'n gysurus yn fy fflat fy hun. Yn sicr rwy'n bwriadu aros gyda The Gathering a phrofi nad yw pobl ifanc i gyd yn ddrwg.' Ac meddai aelod arall, Jess: 'Dyw bo yn ddigartref ddim yn golygu eistedd ar y stryd gyda chi a photel seidr a gofyn i bobl am arian. Mae eisiau i fwy o bobl sylweddoli hynny a dyna beth rwy'n bwriadu'i ddweud wrthyn nhw.'

Mae The Gathering wedi gweld ei aelodau yn ennill gwybodaeth a sgiliau newydd ac yn symud ymlaen i fyw'n gwbl annibynnol a chael addysg, swyddi a hyfforddiant. Maen nhw hefyd yn parhau i ddylanwadu ar Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan brofi eu bod nid yn unig yn gefnogwyr gwirioneddol i gydraddoldeb ond hefyd yn wir ysbrydoliaeth i eraill.