Cyllid Porth Ymgysylltu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Prosiectau NIACE Dysgu Cymru

Bu NDC yn llwyddiannus gyda 3 phrosiect Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), sydd rhyngddynt yn gwasanaethu Cymru gyfan. Mae ein prosiect Cydgyfeirio yn gweithredu mewn 14 o siroedd ar draws Cymru a'r prosiect Cystadleurwydd mewn 7 o'r siroedd hynny ac mae gennym brosiect arall yn Sir Gaerfyrddin yn unig. Hyd yma mae NDC wedi cynnal pedwar panel misol, rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, i asesu ceisiadau partner ac wedi cyhoeddi bron 30 o is-gontractau ledled Cymru i'n partneriaid. Gall sefydliadau ddal i wneud cais i ni am gyllid, gweler y dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd nesaf y panel pan fyddwn yn trafod pa gynigion i'w hariannu. Mae'r sesiynau blasu a gymeradwywyd hyd yma yn cynnwys technoleg gwybodaeth, celf ewinedd, gwaith brics, trin gwallt, cymorth cyntaf, electroneg a dysgu teulu. Beth allech chi ei wneud?

Pwy sy'n gymwys i fynychu eich sesiynau blasu?

Dim ond rhai sy'n economaidd anweithgar y gall prosiect Porth Cysylltu mewn ardaloedd Cydgyfeirio a Chystadleurwydd eu targedu (h.y. heb fod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth). Gall pobl fod yn hawlio budd-dal Anallu (ond dim unrhyw fudd-daliadau ychwanegol), neu gallant fod yn cael eu cyflogi am dan 16 awr yr wythnos (a heb fod yn hawlio unrhyw fudd-daliadau ychwanegol).

Mae prosiect Porth Cysylltu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol, lle gall pobl fod yn economaidd anweithgar neu yn ddi-waith.

Beth yw'r broses o wneud cais am gyllid?

Caiff partneriaid eu gwahodd yn awr i gyflwyno 'Ffurflen Cais Partner' i ni yn rhoi manylion pa sesiynau blasu yr hoffech eu trefnu, pa grwpiau y byddwch yn eu targedu a faint o gyfranogwyr yr ydych yn anelu amdanynt.

Dyddiadau cau'r cylchoedd nesaf:

20 Ionawr

24 Chwefror

23 Mawrth

27 Ebrill

Sut mae hyn yn ffitio gyda'ch prosiectau eraill?

Gan fod y prosiectau hyn yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd blasu byr, gallant ffitio'n dda iawn gyda phrosiectau eraill - gan roi cyfle i bobl roi cynnig a rhyddhau eich cyllid prosiect i roi cynnig ar ddulliau newydd. Os oes rhywun yn mynychu sesiwn blasu dysgu am ddim fel rhan o'r prosiect hwn, gallant symud ymlaen i brosiectau CGGC partneriaid eraill - y nod yw helpu taith a chynnydd y dysgwyr.

Os nad yw sefydliad ar Restr Cyflenwyr Cymeradwyo CGGC, rydym yn dal i fod eisiau gwybod am eich prosiectau a chyfleoedd eraill gan y medrant roi dilyniant i'r cyfranogwyr a chynnig cyfleoedd atgyfeirio da i'ch gwasanaeth. Gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os oes gennych gr┼Áp o ddarpar gyfranogwyr ar gyfer y prosiect - gallwn weithio gyda'n darparwyr i ddarparu sesiynau blasu pwrpasol i chi!

Eisiau gwybod mwy?

Byddem yn falch iawn clywed gennych os hoffech gymryd rhan - un ai i gyflwyno digwyddiadau dysgu a sesiynau blasu neu gyda chyfleoedd dilyniant. Cysylltwch â'r tîm i ganfod mwy:

Rhydian Thomas (Prosiect Cydgyfeirio, ac eithrio Sir Gaerfyrddin)
rhydian@niacedc.org.uk
02920 370911

Clare Southard (Prosiect Sir Gaerfyrddin)
clare.southard@niacedc.org.uk
07880 724058

Kay Smith (Prosiect Cystadleurwydd)
kay@niacedc.org.uk
07880 724053