ESOL Digwyddiadau Hyfforddiant Mawrth 2011
Dinasyddion Egniol: Cymunedau Egniol - Hyfforddiant am ddim ar gyfer ymarferwyr ESOL
Cefndir: Datblygodd NIACE a LLU+ y deunyddiau llwyddiannus ar Ddinasyddiaeth ar gyfer dysgwyr ESOL yn 2006. Ysgrifennwyd y deunyddiau mewn ymgynghoriad gyda dysgwyr ac ymarferwyr ac maent yn cynnwys amrywiaeth o syniadau am weithgareddau poblogaidd iawn yng nghyd-destun dinasyddiaeth. Yn 2009 comisiynwyd NIACE gan y Swyddfa Gartref i ddiweddaru'r pecyn a'i addasu er mwyn diwallu'n well anghenion yr agenda cydlyniad cymunedol/dinasyddiaeth egniol. Mae'r pecyn yn awr yn cynnwys deunyddiau a ddiweddarwyd a phenodau newydd yn cynnwys:
- adrannau wedi eu diweddaru ar Beth yw Dinasyddiaeth, y Senedd a'r Deyrnas Gyfunol fel Cymdeithas Amrywiol
- adrannau newydd ar Cymryd Rhan yn eich Cymuned a Ffydd a Chredoau
Yn dilyn cyfres o weithdai yn Lloegr, mae NIACE Dysgu Cymru yn awr yn cynnal pedwar digwyddiad hyfforddi ar draws Cymru. Caiff y deunyddiau a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a'r digwyddiadau hyfforddi eu hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Pwy fyddai'n cael budd o fynychu? Dylai'r gweithdai hwn apelio at bob ymarferydd sy'n cyflwyno ESOLym mhob sector, yn benodol:
- Athrawon ESOL a dinasyddiaeth
- Rheolwyr ESOL
Nod: Rhoi deunyddiau dysgu a gweithgareddau ymarferol i gefnogi ymarferwyr ESOl sy'n addysgu dysgwyr gyda sgiliau ESOL lefel Mynediad sy'n dymuno gwneud cais am ddinasyddiaeth y Deyrnas Unedig.
Amcanion ar gyfer cyfranogwyr: Bydd y gweithdy yn cynnig cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan i:
- Edrych ar ddeunyddiau Dinasyddiaeth newydd 2010 ar gyfer Dysgwr ESOL
- Rhannu syniadau ar gyflwyno'r deunyddiau
- Diweddaru'r sawl sy'n cymryd rhan am y syniadau diweddaraf ar ddinasyddiaeth a chydlyniad cymunedol
- Rhannu adborth o gynlluniau peilot a hyfforddwyr Dinasyddiaeth Egniol
- Derbyn eu copi eu hunain o'r deunyddiau newydd.
Lleoliadau:
1 Mawrth - swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyffordd Llandudno
3 Mawrth - swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Penllergaer
8 Mawrth - swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Merthyr Tudful
9 Mawrth - Archifdy Morgannwg, Caerdydd
Bydd pob digwyddiad yn rhedeg rhwng 9.30am-3.00pm
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly i wneud cais am ffurflen archebu cysylltwch â wendy@niacedc.org.uk cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr hyfforddiant, cysylltwch â cerys.furlong@niacedc.org.uk os gwelwch yn dda.