Cynhadledd Flynyddol  Rhwydwaith Dysgu Teulu a Phontio'r Cenedlaethau
Canlyniadau Gwerthfawr i Bawb
1 Chwefror 2011, Pavilion, Llandrindod Wells

Daeth aelodau'r Rhwydwaith Dysgu Teulu a Phontio'r Cenedlaethau o bob rhan o Gymru i gynhadledd flynyddol y Rhwydwaith yn Llandrindod. Nod y digwyddiad yw dangos sut mae dysgu teulu a phontio'r cenedlaethau yn medru rhoi manteision i bawb ar draws ystod o feysydd polisi. Bu'r rhwydwaith yn llwyddiannus eisoes wrth ddenu pobl o sefydliadau amrywiol ac roedd cynrychiolwyr yn bresennol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Booktrust Cymru a gwahanol ddarparwyr dysgu ac awdurdodau lleol.

Cadeiriwyd y diwrnod gan Lynne Hill, Cyfarwyddydd Polisi Plant yng Nghymru. Yn gyntaf cafwyd araith gan Andrea Nicholas-Jones, yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymarfer pontio'r cenedlaethau. Rhoddodd Carys Morgan wedyn olwg ar Casgliad y Bobl, adnodd ar-lein newydd cyffrous fydd yn annog pobl i chwarae rhan wrth ddogfennu diwylliant a hanes Cymru. Daeth sesiwn y bore i ben gyda chyflwyniad yn rhoi manylion sut mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn creu dull ar gyfer cydnabod a chofnodi'r holl ddysgu a hyfforddiant yng Nghymru. (Mae'r holl gyflwyniadau Powerpoint ar gael islaw ar gyfer eu lawrlwytho).

Dangosodd gweithdai'r prynhawn y gosodiadau amrywiol lle gall Dysgu Teulu a Phontio'r Cenedlaethau gael effaith gadarnhaol. Roedd y gweithdai'n cynnwys prosiect dweud straeon digidol cymunedol, gr┼Áp rhifedd sydd wedi ennill gwobrau a golwg ar waith blaengar yng Ngharchar Parc sy'n annog troseddwyr i gadw cysylltiadau gyda'u teuluoedd. Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i roi cyhoeddusrwydd i'r datganiad polisi a gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddar ar Ddysgu Oedolion yn y Gymuned, Darparu Dysgu yn y Gymuned yng Nghymru , yr oedd gan gynrychiolwyr lawer o ddiddordeb ynddo.

Roedd yr adborth i'r Gynhadledd yn gadarnhaol gyda 90% o gynrychiolwyr yn dweud fod y diwrnod yn dda iawn neu'n dda. Crisialodd un cynrychiolydd yr hyn a gredai llawer o bobl am y dydd drwy ddweud ei bod wedi mwynhau 'gwneud cysylltiadau newydd a syniadau newydd i fynd â hwy'n ôl.

Gweithgaredd dilynol

Manteisiodd staff NDC ar y cyfle i dynnu sylw at Ddiwrnod Dysgu Teulu  a gynhelir ar 21 Mai 2011 fel rhan o'r dathliad ehangach o'r Wythnos Addysg Oedolion. Roedd nifer o gynrychiolwyr yn awyddus i drefnu digwyddiadau yn ystod yr Wythnos a chânt eu hannog i fynychu cyfarfod nesaf y rhwydwaith a rhannu eu syniadau ar gyfer gweithgareddau.

 I fanteisio ar y diddordeb a ddangosodd cynrychiolwyr mewn prosiectau treftadaeth a Chasgliad y Bobl, cynhelir cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Dysgu Teulu a Phontio'r Cenedlaethau yn adeilad newydd Archifau Morgannwg lle bydd cyfle i glywed mwy am y cyfleusterau a gynigiant. (Cliciwch yma i archebu lle).

 Caiff holl aelodau'r rhwydwaith eu hannog i anfon manylion gwaith presennol i'w cynnwys ar wefan NIACE Dysgu Cymru a pharhau i roi fforwm ar gyfer cyfnewid arfer da a syniadau newydd.