Beth mae NIACE Dysgu Cymru yn ei wneud?

Mae'r sefydliad yn: 

  • Gweithredu fel cyfaill beirniadol i lywodraeth leol a chenedlaethol (Llywodraeth Cynulliad Cymru) gan roi cefnogaeth a chyngor ar:
    • datblygu polisi a strategaeth.
    • dysgu teulu a phontio'r cenedlaethau.
    • dysgwyr h┼Àn.
    • cydraddoldeb ac amrywiaeth.
    • datblygu ansawdd a meincnodi.
    • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu ac e-ddysgu.
    • gweithredu Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru.
    • iaith, llythrennedd a rhifedd.
    • Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
  • Monitro prosesau gwneud polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, cynhyrchu adroddiadau, ymateb i ymgynghoriadau a chynhyrchu papurau gwybodaeth i hysbysu a dylanwadu ar ddatblygu polisi fel y mae'n effeithio ar addysg oedolion.
  • Hyrwyddo cyfranogiad mewn addysg oedolion drwy ymgyrchoedd proffil uchel megis yr Wythnos Addysg Oedolion, Tymor Cofrestru, Cymryd y Llyw a diwrnod Dysgu yn y Gwaith. Drwy'r gwaith hwn, mae NIACE Dysgu Cymru yn cefnogi 22 o Grwpiau G┼Áyl Ddysgu yn cynnwys dros 250 partner o ystod eang o sectorau ar draws Cymru. Mae'r ymgyrchoedd yn cyrraedd dros 30,000 o gyfranogwyr bob blwyddyn, gyda llawer ohonynt yn dod o gefndir o ychydig neu ddim addysg flaenorol.
  • Gweithredu fel asiant newid drwy beilota dulliau blaengar i ymrwymo oedolion mewn dysgu a chynnal gwaith ymchwil a datblygu;
  • Cefnogi ymarferwyr drwy gyhoeddi cylchlythyrau, trefnu cynadleddau a digwyddiadau i annog rhannu syniadau ac arfer da mewn dysgu gydol oes.
  • Annog a chefnogi cydweithio rhwng sectorau er budd addysg oedolion;
  • Rhoi mynediad drwy ei gysylltiadau gyda NIACE i ystod enfawr o gyhoeddiadau diffiniol ac arbenigedd ym maes addysg oedolion.