Mae gallu dysgu yn fy oed i wedi rhoi cymaint o hyder imi,' medd Ada. 'Wnes i erioed feddwl y gallwn gyflawni cymaint yn fy wythdegau. Yn sicr mae wedi cadw f'ymennydd rhag rhydu!
Yn 2006, fe benderfynodd Ada Evans fod angen iddi ddal i fyny gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, felly ar ôl gweld hysbyseb am ddosbarth cyfrifiaduron yn ei swyddfa Cymunedau yn Gyntaf leol yn Sefydliad Gellideg, fe benderfynodd gofrestru ar gyfer cwrs. Er ei bod hi'n bryderus y gallai ei hoedran ei rhwystro rhan dysgu sgiliau newydd, magodd y dewrder i fentro ac i ffwrdd â hi.
Ar ôl tri mis roedd Ada wedi dysgu'r sgiliau sylfaenol a datblygu awch gwirioneddol ar gyfer addysg, ond oherwydd prinder mynychwyr daeth y cwrs i ben. Yn hytrach nag ildio daliodd Ada ati i ddilyn ei huchelgais trwy arwyddo ar gyfer cyfres o gyrsiau cyfrifiadurol uwch oedd yn cael eu cynnal gan y WEA. Nid yn unig daeth Ada yn gwbl hyddysg yn fuan, ond roedd ganddi hefyd y gallu i roi cyfrifiadur cyfan wrth ei gilydd o'r dechrau i'r diwedd.
Mae Ada wedi mynd ymlaen i gynnal sgyrsiau am gyfrifiadureg a defnyddio'i phrofiad i annog eraill, gan geisio eu hysbrydoli trwy ei brwdfrydedd ei hunan am ddysgu. Yn 88 oed, mae Ada yn wir ysbrydoliaeth i'w ffrindiau, a chyda'i sgiliau newydd mae bob amser yn edrych i'r dyfodol er mwyn parhau i ddatblygu sgiliau. Yn sicr mae brwdfrydedd ac ymroddiad Ada tuag at ei phwnc yn profi nad yw oedran yn unrhyw rwystr rhag dysgu.